Newyddion S4C

Penaethiaid ysgolion Sir Gâr yn pryderu am ymddygiad disgyblion

Newyddion S4C 26/04/2022

Penaethiaid ysgolion Sir Gâr yn pryderu am ymddygiad disgyblion

Mae prifathrawon ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd i rieni yn gofyn am gymorth i ddelio â phroblemau ymddygiad disgyblion.

Fe gafodd y llythyr ei rannu ar gyfrif Twitter Ysgol y Strade yn Llanelli, yn nodi bod ymddygiad disgyblion mewn ysgolion ar draws y sir wedi gwaethygu ers diwedd y cyfnodau clo. 

Yn y llythyr mae'r penaethiaid yn lleisio eu pryderon dros ddisgyblion yn “difrodi eiddo a fandaliaeth” a'r “iaith sarhaus” sy’n cael ei gyfeirio at staff a chyd-ddisgyblion.

Mae’r llythyr hefyd yn cydnabod yr heriau mae disgyblion wedi ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’r effaith mae hynny wedi’i gael arnynt.

Yn ôl Rebecca Williams, Swyddog Polisi undeb athrawon UCAC, mae’r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol:

“Mae’r llythyr yn dangos bod e'n broblem cyffredinol iawn, ac mae'n sicr yn rhywbeth i ni'n clywed gan aelodau nid yn unig yn Sir Gâr ond ledled Cymru.

“Ma' nhw'n (aelodau UCAC) gweld y gwahaniaeth o ran ymddygiad. 'Wi'n credu ma' nhw'n gweld bod plant angen bron ail-arfer â rheolau cymdeithasol, sut i ymwneud â'i gilydd eto ar ôl y cyfnod o fod adre' mor hir, a jyst angen ailgysylltu a ma' nhw'n delio hefyd gyda pob math o brofiadau.

“Dwi'n credu ma' angen i ni weithio mas yn gyflym iawn sut orau i gefnogi disgyblion, a staff, ac ysgolion cyfan i fynd i'r afael â hyn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.