Cynllun i drawsnewid capel gwag yng Ngwynedd i fod yn gym gymunedol

Capel y Babell, Llanaelhaearn, Gwynedd. Llun: Google
Mae cynllun i drawsnewid capel gwag i fod yn gym cymunedol wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd.
Mae Capel y Babell yn Llanaelhaearn ger Pwllheli wedi bod ar gau ers blynyddoedd.
Dywed grŵp cymunedol Antur Aelhaearn eu bod yn credu fod galw am gym yn yr ardal.
Cafodd yr adeilad ei brynu gan Antur Aelhaearn yn 2008.
Mae swyddogion cynllunio’r cyngor nawr yn ystyried y cynigion cyn penderfynu os ydyn nhw am roi caniatâd i’r cynllun ai peidio.
Darllenwch ragor am y stori yma.
Llun: Google