Y farn o Ffrainc: 'Noson o fuddugoliaeth heb fuddugoliaeth i Macron'
Daeth cadarnhad nos Sul mai Emmanuel Macron fydd Arlywydd nesaf Ffrainc am y pum mlynedd nesaf.
Enillodd Macron 58% o'r bleidlais, gyda'i wrthwynebydd, Marine Le Pen, yn hawlio 42%.
Ond, roedd y canlyniad nos Sul yn arwyddocaol iawn mewn sawl ffordd, ac er gwaetha'r ffaith mai Macron ydi'r Arlywydd Ffrengig cyntaf i gael ei ail-ethol ers dros 20 mlynedd, mae'r wasg yn Ffrainc wedi bod yn cwestiynu os mai pleidleisio dros yr Arlywydd presennol wnaeth y Ffrancwyr, yntau pleidleisio i atal Le Pen rhag dod yn Arlywydd.
'Noson o fuddugoliaeth heb fuddugoliaeth i Macron'
Dywedodd Macron ei fod wedi clywed neges y Ffrancwyr, gan ddatgan ei fod yn cydnabod efallai nad oeddent wedi pleidleisio drosto drwy gefnogaeth, ond yn hytrach, er mwyn atal Le Pen rhag cyrraedd yr Élysée.
"Dwi bellach ddim yn ymgeisydd un plaid wleidyddol, ond yn arlywydd i bawb" meddai Macron wrth iddo areithio ym Mharis wedi ei amgylchynu gan fflagiau Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd.
Un o brif penawdau papur newydd Le Monde ddydd Llun oedd bod "canlyniad nos Sul yn 'noson o fuddugoliaeth heb fuddugoliaeth i Macron yn sgil canlyniad hanesyddol yr asgell-dde eithafol."
Mae'r 42% yn nodi cynnydd parhaol ac hanesyddol i wleidyddiaeth asgell dde eithafol yn Ffrainc, gan bwysleisio parodrwydd Ffrancwyr i ystyried datrysiadau eithafol yn eu gwlad.
Ychwanegodd papur newydd Le Parisien hefyd bod y canlyniad yn destun pryder i nifer o Ffrancwyr yn sgil "llwyddiant arwyddocaol yr asgell dde eithafol yn ogystal â'r raddfa ymataliad gynyddol" wrth i 28% o Ffrancwyr beidio defnyddio eu pleidlais - sef y raddfa uchaf ers 1969.
'Aeddfedrwydd gwleidyddol y Ffrancwyr yn arwyddocaol er mwyn atal Le Pen'
Fe wnaeth papur newydd Libération ddatgan mai 'aeddfedrwydd y Ffrancwyr oedd yn gyfrifol am atal Le Pen rhag dod yn Arlywydd wrth iddyn nhw gydnabod perygl yr asgell dde'.
Roedd costau byw yn ganolog i'r etholiadau arlywyddol, ac fe wnaeth Macron ddatgan mai un o flaenoriaethau ei lywodraeth ydy 'deddf eithriadol ar bŵer prynu Ffrainc' yn y frwydr yn erbyn costau byw, a hynny er mwyn ceisio dwyn perswâd ar y Ffrancwyr, mai nid 'Arlywydd y cyfoethog' ydyw yn unig, ond yn Arlywydd i'r 'rheiny sy'n teimlo'n ynysig o'u bolisïau'.
Pen y daith i Le Pen?
Dywed papur newydd Le Parisien bod posiblrwydd y gall Le Pen gamu yn ôl fel arweinydd y blaid Rassemblement National.
Er mai dyma’r eildro i Marine Le Pen fethu â hawlio’r arlywyddiaeth, fe wnaeth hi gydnabod bod y canlyniad yn 'fuddugoliaeth ysgubol i'r asgell dde' sy'n parhau i 'fynd o nerth i nerth'.
"Dwi'n ofni na fydd Emmanuel Macron yn gwneud unrhywbeth i ddelio â'r ffactorau sy'n ynysu pobl ein gwlad" meddai Le Pen.
"Dwi'n parhau wedi fy ymrwymo i Ffrainc a'r Ffrancwyr. Dydy hyn ddim drosodd."
Noson hanesyddol i Macron
Bydd y pum mlynedd nesaf, sef y tro cyntaf mewn 20 mlynedd i Arlywydd Ffrainc sicrhau ail dymor, yn sicr o fod yn heriol. Gyda'r etholiadau seneddol ym mis Mehefin yn agosau, bydd ffactorau dadleuol megis yr oed ymddeol, costau byw a goblygiadau ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn flaenoriaethau i Macron.
"Ni fydd y blynyddoedd nesaf yn rhai tawel, ond yn rhai hanesyddol" meddai, wrth geisio uno gwlad a gwleidyddiaeth rhanedig.
Llun: Creative Commons