Newyddion S4C

Jamie Wallis A.S. i drawsnewid i fod yn fenyw 'cyn gynted ag sy'n bosib'

Sky News 24/04/2022
S4C

Mae'r aelod seneddol cyntaf yn San Steffan i gyhoeddi ei fod yn drawsryweddol yn dweud mai ei fwriad yw dechrau ar y broses o drawsnewid i fod yn fenyw "cyn gynted ag sy'n bosib."

Fe gyhoeddodd Jamie Wallis, sydd yn cynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ei fod yn berson trawsryweddol ym mis Mawrth eleni. 

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth y gwleidydd ddisgrifio sut y bu'n dioddef o ddysfforia rhywedd ers yn blentyn ifanc. 

Wrth siarad ar raglen Sophie Ridge ar Sky fore dydd Sul, ywchwanegodd Jamie Wallis ei fod yn "rhydd" i ddechrau ar y "daith hir" i ddod yn fenyw. 

Ychwanegodd ei fod yn annog pobl ifanc sydd hefyd yn cwestiynau eu rhywedd i "beidio aros mor hir â fi."

"Dwi wedi aros ac mae lot o bobl ifanc yn delio gyda phroblemau rhywedd a fy nghyngor iddyn nhw ydy, mae gen ti fywyd hir," meddai. 

"Byswn i ddim yn aros mor hir â fi, dwi'n 37, falle gallwch chi symud ychydig yn gyflymach na hynny.

"Ond does dim byd yn anghywir o gymryd amser i ddarganfod eich hunain a pheidiwch teimlo o dan bwysau i ddefnyddio label penodol yn syth."

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.