Newyddion S4C

Chwe Gwlad Menywod Cymru: ‘Gwersi i'w dysgu ar ôl colli yn erbyn Ffrainc’

Newyddion S4C 23/04/2022

Chwe Gwlad Menywod Cymru: ‘Gwersi i'w dysgu ar ôl colli yn erbyn Ffrainc’

Ar ôl perfformiad siomedig yn erbyn Ffrainc mae gan Gymru wersi i'w dysgu yn ôl un o gyn-chwaraewyr Cymru, Non Evans.

Collodd Cymru 5-33 yn erbyn y Ffrancwyr nos Wener.

Mae Cymru nawr wedi colli dwy gêm yn olynol yn y bencampwriaeth eleni yn dilyn colled drom yn erbyn Lloegr bythefnos yn ôl. 

Daw hyn ar ôl dechrau gwych i'r gystadleuaeth gyda buddugoliaethau yn erbyn Iwerddon a'r Alban. 

Serch y perfformiadau addawol ar ddechrau'r bencampwriaeth, mae Non Evans yn credu bod rhaid i Gymru wella er mwyn cystadlu gyda goreuon y byd. 

“Ar ôl perfformiadau da yn erbyn Iwerddon ac yn erbyn yr Alban, o’n i ddim yn teimlo bo ni wedi datblygu gymaint yn y gêm yma,” meddai.

“Gath deuddeg o'r merched cytundebau llawn amser ym mis Ionawr felly dim ond gwella naw nhw.”

Prin oedd unrhyw chwarae yn hanner Ffrainc yn ystod yr hanner cyntaf, wrth i'r ymwelwyr ddominyddu'r meddiant gan roi Cymru o dan bwysau cyson. 

Ond dim ond saith pwynt sgoriodd yr ymwelwyr  yn yr ail hanner, a Chymru hefyd yn croesi’r llinell am gais hwyr.

“Dwi'n meddwl ma'r broblem fwyaf odd gyda Cymru neithiwr odd neb yn rheoli'n dda iawn yn safle'r maswr," meddai Non Evans. 

“Odd Cymru yn trio chwarae gormod o rygbi yn hanner ei hunan yn hytrach na cicio'r bêl lawr y cae fel nathon nhw yn yr ail hanner.

“Ond ma' ishe rheoli mwy o'r tiriogaeth a ma' ishe gweithio ar y cicio, does neb 'da ni yn y canol yn gallu cicio - dyw'r cefnwr ddim yn cicio llawer o gwbl.

“Ond yn y gemau mawr yma yn erbyn timau gorau'r byd fel Ffrainc a Lloegr ma' raid i ni weithio ar gêm cicio merched Cymru os yw nhw moyn datblygu yn y dyfodol.”

Bydd Cymru nawr yn troi eu sylw at benwythnos olaf y bencampwriaeth pan fydd yr Eidalwyr yn teithio i Gaerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.