
Y gamp o droelli baton yn agor drysau i deulu o Sir Gâr

Y gamp o droelli baton yn agor drysau i deulu o Sir Gâr
"Fe nes i adael ysgol heb unrhyw gymhwysterau, dim TGAU na dim byd" meddai Kelly Lewis Bennett o'r Tymbl, Cwm Gwendraeth.
"Erbyn yr oeddwn yn 20 mlwydd oed, roedd 'da fi blant. Meddyliais erioed y byddwn yn fwy na mam am weddill fy oes".
Ond daeth tro ar fyd i Kelly wrth iddi fynd ati i drio darganfod adeilad addas lle gallai ei merch, Stephanie, ymarfer y gamp o droelli baton neu "twirling".
Mae Kelly bellach yw rheolwr un o ganolfannau hamdden Canolfan Carwyn yng Nghwm Gwendraeth.
Mae Stephanie yn aelod brwdfrydig a llwyddiannus o glwb "twirlers" Sir Gaerfyrddin , a llynedd rhoddwyd iddi statws athletwr elitaidd gan Chwaraeon Cymru.
Roedd hynny yn hwb enfawr iddi, ond roedd yna broblem. Doedd yna unlle addas ar ei chyfer i ymarfer.
“Fe geson ni drafferthion mawr yn dod o hyd i neuadd ar ei chyfer hi" meddai Kelly.
"Er ei bod hi wedi ennill y statws athletwr elitaidd, doedd hynny ddim yn golygu y byddai hi’n gallu ymarfer, oherwydd roedd hi yn rili anodd wrth drio dod o hyd i neuadd oedd yn addas, gan bod angen nenfwd uchel er mwyn taflu y baton."

Yn ystod cyfnod pandemig Covid-19, doedd dim modd iddi wneud unrhyw ymarfer dan do. Ond roedd Stephanie yn benderfynnol o ddal ati ac felly byddai yn ymarfer mewn meysydd parcio.
Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio dechreuodd y clwb ymarfer yng Nghanolfan Carwyn, oedd yn berffaith ar gyfer eu anghenion.
Cyn pen dim roedd syniadau a brwdfrydedd Kelly a'r grwp wedi gwneud argraff ar swyddogion y ganolfan chwaraeon ac fe ofynnwyd iddi a fydde diddordeb ganddi mewn rheoli y ganolfan ym mhentre Drefach.
Chwilio am gartref newydd i'r grwp troelli baton oedd y rheswm pam y penderfynnodd Kelly ddechre gyrfa newydd fel rheolwr canolfan hamdden Carwyn.
"Netho ni gymryd drosodd Canolfan Carwyn oherwydd nad oedd gan ein haelodau gartref i ymarfer ynddo.
"Mae Covid wedi cael effaith ofnadwy ar bob math o chwaraeon cymunedol, ac felly, roedd hyn yn golygu y byddai ‘na gartref parhaol i’n haelodau, heb unrhyw drafferthion.”
Mae hi nawr yn ehangu ei gweledigaeth ar gyfer y ganolfan gyda'r bwriad o'i ddatblygu yn adnodd i'r gymuned gyfan yng Nghwm Gwendraeth.
Mae'r arwyddion cynnar yn addawol iawn, gyda mwy o ddiddordeb o lawer yn y prosiectau sydd wedi eu trefnu eisoes yn y ganolfan.
Ac wrth sicrhau llwyddiant Canolfan Carwyn mae Kelly hefyd yn gobeithio y bydd eu cartre newydd yn helpu y "twirlers" yn sir Gaerfyrddin i symud ymlan at fwy o lwyddiant a gwireddu eu nod o gyrraedd yr uchelfannau.