Archfarchnadoedd yn gosod cyfyngiadau ar werthu olew coginio

Mae nifer o archfarchnadoedd ar draws y DU wedi dechrau cyfyngu ar werthiant olew coginio, yn dilyn trafferthion gyda'r gadwyn gyflenwi o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin.
Mae Wcráin yn gyfrifol am allforio canran sylweddol o olew blodyn yr haul i wledydd ar hyd Ewrop, ond yn dilyn y gwrthdaro yn y wlad mae'r cyflenwad wedi ei effeithio'n sylweddol.
Dywedodd archfarchnad Tesco fod cyfyngiad o dair potel o olew coginio i bob cwsmer, gyda Morrisons yn cyfyngu ar ddwy botel yn unig i bob cwsmer.
Dywedodd Sainsbury's wrth Sky nad oedd unrhyw fwriad i gyfyngu ar gyflenwadau i gwsmeriaid hyd yma, ac roedd Waitrose yn cadw llygad ar y sefyllfa am y tro.
Darllenwch y stori'n llawn yma.