Newyddion S4C

Addysg am y mislif 'angen gwella ar frys' mewn ysgolion

Newyddion S4C 21/04/2022

Addysg am y mislif 'angen gwella ar frys' mewn ysgolion

“TikTok, YouTube, Instagram - mae loads o wefannau lle fi wedi ffeindio lot o wybodaeth ddefnyddiol am periods.”

Dyma brofiad merch o Landybie, Sir Gaerfyrddin a’i ffrindiau sy’n dweud nad oedd yr addysg am y mislif yn ddigonol yn eu hysgolion.

“Y tro cynta' weles i sut i insertio tampon oedd ar YouTube – nes i chwilio achos o'n i ddim yn gwybod sut i neud e, nes i ofyn i Mam ond o'n i moyn checio hefyd,” meddai Lili Mai Davies, sydd yn 17 oed.

Daw’r sylwadau wrth i astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe ddweud bod angen rhoi sylw penodol i addysg mislif mewn ysgolion.

I nifer mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi llenwi’r bwlch er mwyn deall eu cylchoedd misol yn well.

Image
Ffrindiau
Mae nifer o ferched yn dweud y bu'n rhaid iddynt droi at y we am gymorth gyda'r mislif.

 

Dywedodd Efa Angharad, 18, o Gorslas ei bod hi wedi cael peth gwybodaeth ym mlwyddyn 6 am newidiadau corfforol ond mi gafodd y darlun ehangach ar-lein.

“Tik Tok yn enwedig, mae’n ffordd rhwydd i rhannu gwybodaeth…..na’r ffordd fi ‘di addysgu’n hunan a fi’n credu bo hwnna’n drist taw cyfrifoldeb ni yw e,” meddai Efa.

“Oherwydd so ni’n cael ein haddysgu amdano fe, ni’n teimlo fel – ydy hwn dim ond yn digwydd i fi? Ife dim ond fi sy’n cael cramps mor wael â hyn? Mae’n dal i fod yn bwnc tabŵ.”

'Anghyfforddus trafod gydag athrawon'

Doedd Ffion James, 17 o Rydaman ddim am drafod materion gyda staff yn yr ysgol.

“Fi ddim rili’n teimlo’n gyfforddus i fynd lan at athrawes i siarad amdano fe oherwydd fi’n teimlo bo nhw’n anghyffyrddus i drafod e da fi,” meddai Ffion.

Image
Ffion James
Dywedodd Ffion James ei bod yn anghyfforddus yn trafod y mislif gydag athrawon.

Nid yw sylwadau’r dair ffrind yn unigryw gan bo gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe yn nodi nad yw’r addysg am gylch misol mewn ysgolion yn ddigonol.

Wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru, mae’r adroddiad yn argymell rhoi mwy o amser, hyfforddiant a chymorth i athrawon yn ogystal â darparu mwy o wybodaeth am agweddau emosiynol a chymdeithasol y mislif.

Nododd yr ymchwil hefyd fod athrawon yn teimlo bod y mislif yn effeithio ar bresenoldeb, yr awydd i gymryd rhan mewn ymarfer corff, yn ogystal ag ymddygiad a hyder.

Mae un hyfforddwraig bersonol o’r Barri yn ymwybodol iawn o effeithiau’r mislif ar ei chleientiaid ac mae hi’n teilwra ei gwasanaeth. 

Yn ôl Rebecca Williams mae cyfnod cylchol menywod fel y tymhorau.

“Dwi’n meddwl am y mislif fel y gaeaf, felly’n ystod y gaeaf ‘da ni ishe arafu, da ni ishe bod yn gynnes, ‘da ni ishe cael bach o seibiant, baswn i’n annog cleientiaid i wneud bach o ioga, neu mynd am dro yn ystod y cyfnod yma,” meddai.

Mae’r cyfnod ar ôl y mislif fel y gwanwyn yn ôl Rebecca gydag egni newydd ac yn gyfnod da i godi pwysau cyn symud at yr haf, lle mae pobl ar eu gorau a’u mwyaf egnïol.

Image
Rebecca Williams
Dywedodd Rebecca Williams fod y mislif yn cael effaith mawr ar ei chlientiaid.

Yna daw’r Hydref eto meddai Rebecca cyn y gaeafa neu’r mislif.

Mae’r hyfforddwraig wedi gwneud tipyn o waith ymchwil fel oedolyn ac mae hi hefyd am weld mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu’n gynt i ferched a bechgyn.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd addysg am y mislif yn orfodol o fewn fframwaith y cwricwlwm newydd.

“Mae’n bwysig nad ‘gwers untro’ yn unig yw dysgu am lesiant mislif, a dyna pam mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi bod angen ei ddysgu ar wahanol gamau o’r cwricwlwm,” meddai llefarydd.

Mae Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi UCAC yn dweud bod hwn yn bwnc sydd wedi ei “esgeuluso” o fewn addysg ffurfiol yn y gorffennol, oherwydd diffyg gweledigaeth a hyfforddiant.

“Yn sicr bydd angen cefnogaeth ar athrawon i weithredu’r cwricwlwm a’r dulliau dysgu newydd – yn ddysgu proffesiynol ac yn adnoddau. Mae hyn yn wir ar draws y cwricwlwm, ond yn arbennig o ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb,” ychwanegodd Rebecca.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.