Partïon Rhif 10: Boris Johnson yn ymddiheuro eto wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio ddydd Iau
Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn ymwybodol bod pobl yn "disgwyl gwell gan y Prif Weinidog" wrth iddo ymddiheuro unwaith eto am dorri rheolau Covid-19.
Roedd y Prif Weinidog yn siarad yn San Steffan ddydd Mawrth, y tro cyntaf iddo wynebu Aelodau Seneddol ers derbyn dirwy yn sgil ymchwiliad Heddlu'r Met i bartïon yn Rhif 10 Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo.
Ond mynnodd y Prif Weinidog unwaith eto nad oedd yn ymwybodol bod y digwyddiad yn Rhif 10 ym mis Mehefin 2020 yn torri'r rheolau Covid-19 ar y pryd.
Ychwanegodd Mr Johnson ei fod yn benderfynol o fwrw ymlaen â'i waith, wrth ymateb i'r rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw presennol.
Cyn y sesiwn yn San Steffan, cyhoeddodd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin y bydd pleidlais yn cael ei chynnal ddydd Iau, 21 Ebrill er mwyn i Aelodau Seneddol benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad i ddarganfod a waneth Boris Johnson gamarwain y senedd yn bwrpasol.
Cafodd partïon eu cynnal yn Rhif 10 Downing Street ddyddiau yn unig cyn i daid Nanw Maelor farw.
Ac mae hi wedi siarad â Newyddion S4C gan ddweud ei bod hi'n "dal i alaru am Taid, ac mae’n dal i effeithio fi."
Mewn cyfweliad, dywedodd Nanw ei bod hi'n annheg iddyn nhw fel teulu, nad oedd modd canu'r un emyn yn angladd ei thaid tra roedd criw yn canu 'Pen-blwydd hapus' yn y parti yn Downing Street.
“Mae o jyst yn amharchu popeth ‘dan ni ‘di mynd trwy a popeth ‘dan ni ‘di dioddef," meddai.
Mewn ymateb i ddatganiad Mr Johnson, galwodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer unwaith eto ar i'r Prif Weinidog ymddiswyddo.
Cyn y sesiwn gyda'r Prif Weinidog brynhawn Mawrth, datgelodd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin y bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ddydd Iau, 21 Ebrill er mwyn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad i ddarganfod a wnaeth Boris Johnson gamarwain y senedd yn bwrpasol.
Mae ymchwiliad yr heddlu i nifer o bartïon eraill yn Rhif 10 ac ar draws Whitehall yn ystod y cyfnod clo yn parhau.