Yr heddlu'n atgoffa Nicola Sturgeon am 'bwysigrwydd gwisgo mwgwd pan fo'r gyfraith yn nodi hynny'

Mae Prif Weinidog Yr Alban wedi ymddiheuro ar ôl i'r heddlu ei hatgoffa am "bwysigrwydd gwisgo gorchudd wyneb, pan fo gofyn cyfreithiol i i wneud hynny "
Fe gysylltodd yr heddlu â Nicola Sturgeon ar ôl i fideo gael ei gyhoeddi, lle roedd hi'n ymddangos ei bod hi'n torri canllawiau Covid Yr Alban dros y Sul, ddyddiau cyn i'r rheol ar wisgo mygydau ddod i ben.
Roedd hi'n ymweld â siop barbwr ar y pryd, tra'n ymgyrchu. Ac yn ôl Ms Sturgeon, fe sylweddolodd hi o fewn eiliadau nad oedd ganddi fwgwd, ac iddi ymateb yn syth, a gwisgo gorchudd wyneb.
Mae'r Independent yn nodi fod yr heddlu wedi cyhoeddi datganiad, ac na fydd Nicola Sturgeon yn cael dirwy. Yn ôl yr heddlu, "oherwydd amgylchiadau'r digwyddiad, does dim angen gweithredu ymhellach."
Darllenwch fwy yma