Newyddion S4C

Sefydlu cynllun ar-lein i ddysgu hanes Gwynedd

18/04/2022

Sefydlu cynllun ar-lein i ddysgu hanes Gwynedd

Mae cynllun ar-lein newydd yn cael ei lansio ddydd Llun y Pasg sy'n cyflwyno hanes Gwynedd.

Ar Ddiwrnod Treftadaeth y Byd, 18 Ebrill, bydd modd mynd ar-lein i ddysgu am hanes y sir o dan y cynllun Llysgennad Gwynedd.

Y pwrpas yn ôl Elin Evans o Gyngor Gwynedd “oedd creu cwrs ar-lein er mwyn cyflwyno treftadaeth, hunaniaeth a hanes Gwynedd mewn ffordd syml a chyfoes, fyddai yn addas ac o fudd i bawb; busnesau, plant, pobl ifanc, gweithwyr cyhoeddus a’r cyhoedd yn gyffredinol.” 

Mae'r fenter yn dilyn gwaith diweddar gan y cyngor a’i bartneriaid i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO i ‘Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’. 

Bydd y cwrs rhad-ac-am-ddim yn cynnwys naw modiwl sef iaith, diwylliant, cymunedau, tirwedd, hanes, chwedlau a threftadaeth yn ogystal â throsolwg o Gymru.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.