Dilyn cylchdaith Jac y gwcw o Gymru i Affrica

Mae cylchdaith hir un gwcw wedi ei dilyn a'i chofnodi yn ddiweddar gan arbenigwyr - a hynny'r holl ffordd o Langollen i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Mae'r Ymddiriedolaeth Brydeinig ar Adaryddiaeth wedi bod yn dilyn trywydd cogau ers 2010 i ddarganfod mwy am eu patrymau mudo ac mae’r grŵp wedi rhannu taith arbennig Jac.
Mae’r daith o Langollen i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn 3,904 milltir fel hed y frân - heb sôn am yr holl wyriadau a wnaeth Jac ar ei ffordd.
Dywedodd Kelvin Jones o’r ymddiriedolaeth eu bod wedi gweld “gostyngiad mawr o tua 60% mewn cogau ar draws Cymru.”
Fe gymerodd Jac bedwar mis i gwblhau'r daith un ffordd - gan hedfan heibio'r Pyreneau, Sbaen a’r Sahara ar ei daith.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Ymddiriedolaeth Brydeinig ar Adaryddiaeth