Gruffydd Wyn: 'Mae Britain’s Got Talent wedi bod yn help mawr i ngyrfa'
Gruffydd Wyn: 'Mae Britain’s Got Talent wedi bod yn help mawr i ngyrfa'
Mae canwr o Ynys Môn yn dweud fod cyrraedd rownd derfynol y sioe deledu Britain’s Got Talent wedi rhoi hwb mawr i'w yrfa.
Daeth Gruffydd Wyn, 26 oed, o Amlwch yn bedwerydd yn y gystadleuaeth yn 2018 a dywedodd fod perfformio ar y sioe yn "brofiad anhygoel a bythgofiadwy.”
Mae'r gyfres newydd yn cychwyn nos Sadwrn.
Ers y gystadleuaeth, mae e wedi perfformio ar lwyfannau led led Cymru a Phrydain gan gynnwys yr Hammersmith Apollo ar daith gyda’r grŵp dawns Diversity.
Bellach mae Gruff yn byw a gweithio yng Nghaerfyrddin ac mae ei ymddangosiad ar BGT wedi rhoi hwb iddo yn bersonol ac yn broffesiynol meddai.
Aeth ymlaen i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2020.
Dywedodd Gruff wrth Newyddion S4C am ei brofiad: “Gafodd effaith da iawn ar fy ngyrfa i. Medres i neud llawer iawn o berfformio ar ôl Britain’s Got Talent a nes i gychwyn gyrfa broffesiynol fel canwr hefyd a dwi wedi cael profiadau anhygoel a bythgofiadwy ers 2018.
“Dwi’n meddwl mo’d i wedi dod ymlaen lot fel perfformiwr drost y blynyddoedd ers Britain’s Got Talent. Dwi wedi cael hyfforddiant canu ac wedi ennill y profiadau i ddod i adnabod sut mae cymdeithasu efo cynulleidfa ar lwyfan a sut mae canu sioeau proffesiynol."
Yn y rownd agoriadol yn 2018, dechreudd Gruff ganu cân yn Eidaleg allan o Romeo a Juliet cyn cael ei stopio gan y prif feirniad Simon Cowell.
Aeth Gruff ymlaen i ganu’r gân opera enwog Nessum Dorma ac fe wnaeth ei berfformiad godi’r to gyda'r pedwar beirniad ar eu traed yn cymeradwyo gyda’r gynulleidfa.
Gwasgodd y beirniad Amanda Holden y 'Botwm Aur' oedd yn golygu ei fod yn mynd trwyddo i'r rownd gyn-derfynol yn syth.
Ychwanegodd Gruff: “O’dd hi’n ddiwrnod hir i gychwyn efo hi ac roedd yn hanner awr wedi deg yn y nos – fi oedd yr ola i berfformio ar y diwrnod hwnnw. Oedd y tensiwn, yr adrenalin a’r nerfau i gyd wedi adeiladu ar gyfer y foment yna ac roedd popeth yn un blur mawr ar y noson.
"Dwi’n cofio llaw Simon Cowell yn mynd i fyny ac oeddan i’n meddwl fod pob dim drosodd adeg yna ond fedres i ffeindio rhwbath yn fi fy hun a chanu’r gân Nessum Dorma i gael y ‘Golden Buzzer’.
“Fy nghyngor i unrhyw un sydd ishe ymgeisio yw i fynd amdani ac i fwynhau pob eiliad. Un bywyd sgin pawb ac rwy’n credu’n gry bod jyst angen gneud y mwya ohoni.”