'Popeth yn y fantol' yn etholiadau arlywyddol Ffrainc
'Popeth yn y fantol' yn etholiadau arlywyddol Ffrainc
'Mae popeth yn parhau yn y fantol.'
Dyna oedd geiriau Emmanuel Macron ar ôl cadarnhad y bydd yn wynebu Marine Le Pen yn yr ail rownd, a rownd olaf, etholiadau arlywyddol Ffrainc 2022 ar 24 Ebrill.
Fe wnaeth y papur newydd 'Le Monde' ddatgan bod y pythefnos nesaf yn hollbwysig i Macron a'i gefnogwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod Le Pen ddim yn ennill y ras "ar ddamwain" noson yr etholiad.
Daeth cadarnhad nos Sul fod yr arlywydd presennol, Emmanuel Macron, yn fuddugol yn y rownd gyntaf gyda 27.6% o'r bleidlais gyda Marine Le Pen yn hawlio 23.41%.
Dylanwad Jean-Luc Mélenchon yn hollbwysig
Yn ôl papur newydd 'Libération', 'er ei fod yn grwban, roedd o'n agos y tro hwn'.
Fe wnaeth yr ymgeisydd 70 oed sicrhau y trydydd safle wedi ymgais gref â 21.95% o'r bleidlais.
Ar ôl y canlyniad, roedd gan yr ymgeisydd asgell-chwith eithafol neges gref i Ffrancwyr: "Peidiwch â rhoi unrhyw bleidlais o gwbl i Marine Le Pen."
Fodd bynnag, y farn o Ffrainc ydy y gall pleidleisiau cefnogwyr Mélenchon fod yn hollbwysig wrth benderfynu pwy fydd yr arlywydd nesaf yn enwedig wrth iddo rybuddio Ffrancwyr am beryglon ethol Le Pen. Ar y llaw arall, ni lwyddodd i annog ei gefnogwyr i bleidleisio dros Macron chwaith.
Yn gyffredinol, roedd dwyrain Ffrainc a rhai ardaloedd canolog yn gadarnleoedd ar gyfer Macron gyda Le Pen yn gryf yn y de a rhannau o'r gogledd.
Er bod Macron wedi sicrhau 66% o'r bleidlais yn erbyn Le Pen yn ôl yn yr etholiad arlywyddol yn 2017, mae darogan y bydd hi'n dipyn agosach y tro hwn.
Mae rhai poliau yn rhagweld Macron yn sicrhau ei arlywyddiaeth am yr eil dro gyda 51% o'r bleidlais, a 49% i Le Pen.
Pum mlynedd o argyfyngau
Mae arlywyddiaeth Macron wedi bod yn dyst i "bum mlynedd o argyfyngau difrifol, o'r gilets jaunes i Covid-19 i'r rhyfel yn Wcráin' medd Le Monde a Marine Le Pen o barti'r Rassemblement national yn gweld yr etholiad fel cyfle euraidd i wneud polisïau asgell-dde eithafol yn flaenllaw yn Ffrainc.
Bydd canfasio yn hanfodol ar gyfer y ddau ymgeisydd yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwedig wrth geisio perswadio mwy o Ffrancwyr i ddefnyddio eu pleidlais. Roedd y gyfradd ymataliad yn llawer uwch na'r un yn 2017, gyda ffigyrau yn dangos bod un ymhob pedwar pleidleisiwr oedd yn gymwys wedi penderfynu peidio pleidleisio.