Etholiadau arlywyddol Ffrainc 2022: Y rownd gyntaf
Etholiadau arlywyddol Ffrainc 2022: Y rownd gyntaf
Mae rownd gyntaf etholiadau arlywyddol Ffrainc yn digwydd ddydd Sul.
Gyda dyfodol yr arlywydd presennol, Emmanuel Macron, ychydig yn fwy ansicr bellach wedi bygythiad cynyddol yr ymgeisydd adain dde, Marine Le Pen, teg byddai dweud bod y darogan cyn yr etholiad hwn yn llawer agosach na'r un yn ôl yn 2017.
Sut mae'r etholiadau arlywyddol yn gweithio yn Ffrainc?
Mae dwy rownd i etholiadau arlywyddol Ffrainc. Mae'r rowndiau pleidleisio wastad yn cael eu cynnal ar ddydd Sul gan mai hwn ydy'r diwrnod lle mae'r Ffrancwyr yn fwyaf tebygol o fod ar gael i bleidleisio.
Bydd yr ail rownd bythefnos yn ddiweddarach ar 24 Ebrill.
Beth sy'n digwydd yn y rownd gyntaf?
Bydd deuddeg ymgeisydd yn y rownd gyntaf. Yn eu plith mae'r arlywydd presennol, Emmanuel Macron, yn ogystal ag enwau mawr eraill megis Marine Le Pen ac Eric Zemmour o'r adain dde a Jean-Luc Mélenchon o'r adain chwith.
Bydd y drysau pleidleisio yn agor am 08:00 fore Sul ac yn cau am 19:00 yn y nos.
Am 20:00 nos Sul, bydd pôl darogan gyda'r canlyniadau cychwynnol yn cael eu cyhoeddi. Mae disgwyl i'r canlyniadau terfynol gael eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Materion Cartref fore Llun gyda chadarnhad o'r ddau ymgeisydd fydd yn mynd yn eu blaen i'r ail rownd ar 24 Ebrill.
Beth ydi'r rhagolygon ar gyfer y rownd gyntaf?
Er mai Emmanuel Macron sydd yn parhau ar frig yr arolygon barn, mae'r bwlch rhwng yr arlywydd presennol a Marine Le Pen wedi lleihau. Fodd bynnag, ffactor sy'n gyfrifol am boblogrwydd cynyddol Le Pen ydi eithafiaeth ei chyd-ymgeisydd adain dde, Eric Zemmour a'i bolisïau dadleuol.
O ganlyniad, yr ymgeisydd adain chwith, Jean-Luc Mélenchon sydd yn y trydydd safle bellach.