Dirwy o £250,000 i chwaraewr West Ham am gicio cathod
09/02/2022Mae cefnwr West Ham, Kurt Zouma wedi cael dirwy o £250,000 gan ei glwb wedi i fideo gael ei rannu yn ei ddangos yn cicio a slapio cathod.
Cafodd y fideo a rannwyd gan frawd Zouma, Yoan ei gondemnio gan lawer.
Mae elusen y RSPCA wedi cymryd y cathod oddi arno.
Mewn datganiad, dywedodd y RSPCA y bydd y cathod yn cael eu harchwilio gan filfeddyg tra byddan nhw yn parhau a’u hymchwiliad i’r digwyddiad.
Darllenwch ragor am y stori yma.