Dros 60 o fenywod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i anrhydeddu ymgyrchwyr iaith
Fe wnaeth mwy na 60 o fenywod ymgynnull yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru y penwythnos diwethaf i anrhydeddu'r rhai sydd wedi gweithredu dros y Gymraeg.
Roedd rhai o'r bobl a ddaeth i'r digwyddiad yn ymgyrchwyr eu hunain, ac eraill yn mynychu er cof am aelodau’r teulu.
Fe gafodd rhai eu carcharu am fisoedd gydag eraill yn treulio nosweithiau dan glo.
Un o'r rhai oedd yn rhan o'r digwyddiad, a hynny er cof am ei mam oedd Angharad Maelgwyn.
Ei mam hi, Gwyneth Wiliam, oedd y fenyw gyntaf aeth i’r carchar dros yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Angharad: "Mae heddiw yn hynod o bwysig, ac yn hanesyddol.
"Roedd beth wnaeth Mam ac Eileen Beasley yn hanesyddol, ac yna’r holl ferched a menywod ddaeth ar ôl nhw, maen nhw wedi gwneud gymaint dros yr iaith Gymraeg ac mae angen iddyn nhw gael y gydnabyddiaeth yna...Fysa mam wedi bod wrth ei bodd yma.”
Un arall oedd yn rhan o'r digwyddiad oedd Sian Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Gwynedd Maldwyn.
Roedd Sian Gwenllian yn weithredol gyda Chymdeithas yr Iaith rhwng 1974 ac 1978 gan gymryd rhan mewn sawl ymgyrch, gan gynnwys y rali arwyddion ffyrdd yn Llanelltud, yr ymgyrch i Gymreigio’r swyddfa bost.
Dywedodd Sian Gwenllian: "Mae o wedi bod yn wych ymuno efo merched sydd wedi bod yn rhan mwy gweithredol na fi ar hyd y blynyddoedd ac i ddiolch iddyn nhw mewn gwirionedd achos mae’n gyfnod cyffrous yn hanes Cymru ar hyn o bryd.
“Dwi’n meddwl yn aml iawn am y bobl sydd wedi bod yn gweithredu dros y gymdeithas a Phlaid Cymru am flynyddoedd a blynyddoedd - rhai ohonyn nhw wedi’n gadael ni erbyn hyn ond ‘da ni wedi cyrraedd cyfnod da iawn yn hanes Cymru ac mae’r diolch i’r merched, llawer iawn ohonyn nhw yn fan hyn heddiw, a’r dynion sydd wedi gosod y seiliau ac wedi ymgyrchu ac wedi aberthu gymaint ar hyd y blynyddoedd.”
Roedd y digwyddiad yn rhan o ffilmio rhaglen ddogfen newydd ar S4C a fydd yn adrodd hanes y menywod sydd wedi gweithredu, eu harestio a’u carcharu dros yr iaith Gymraeg ar hyd y degawdau.