Cwpan y Cenhedloedd Affrica: O leiaf chwech wedi'u lladd mewn gwasgfa yn stadiwm Cameroon

Al Jazeera 25/01/2022
S4C

Mae o leiaf chwech o bobl wedi’u lladd a dros 40 wedi’u hanafu mewn gwasgfa y tu allan i gêm bêl-droed Cwpan y Cenhedloedd Affrica yn Cameroon.

Roedd torfeydd wedi ceisio mynd i mewn i stadiwm Yaounde Olembe yn y brifddinas, Yaounde, i wylio Cameroon yn erbyn Comoros ym mhrif dwrnamaint pêl-droed Affrica.

Mae hyd at 60,000 o bobl yn gallu bod yn y stadiwm ond oherwydd cyfyngiadau Covid-19 dim ond 80% o'r stadiwm oedd fod yn llawn ar gyfer y gêm ddydd Llun.

Dywedodd Cydffederasiwn Pêl-droed Affrica eu bod yn cynnal “ymchwiliad i’r sefyllfa ac yn ceisio cael mwy o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd”.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.