Dau o Gaerdydd ar restr '10 uchaf' troseddwyr honedig yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol
20/01/2022
Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi'u cynnwys ar restr 10 uchaf unigolion y mae Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol yn ceisio eu dal.
Mae Asim Naveed a Calvin Parris wedi'u cynnwys ar y rhestr fel rhan o ymgyrch yr asiantaeth i arestio rhai o droseddwyr honedig mwyaf y Deyrnas Unedig.
Mae'r ddau wedi'u cyhuddo o fod yn rhan o grwpiau troseddol a gwerthu cyffuriau Dosbarth A yng Nghymru.
Mae awdurdodau yn credu eu bod yn cuddio yn Sbaen ac yn cydweithio gydag awdurdodau lleol.
Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â lleoliad y ddau ddyn i gysylltu yn syth.