Newyddion S4C

Hyd at 500 i gael bod mewn gweithgareddau awyr agored o ddydd Sadwrn

14/01/2022
Cefnogwyr pêl-droed benywaidd

Bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio yng Nghymru dros y pythefnos nesaf wrth i’r wlad symud yn ôl i Lefel Rhybudd Sero medd y llywodraeth.

Ers dydd San Steffan, mae Cymru wedi bod ar Lefel Rhybudd Dau fel rhan o ymateb y llywodraeth i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron. 

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth raglen Radio Wales Breakfast y bydd y nifer o bobl sy’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored yn codi o 50 i 500 ddydd Sadwrn.

O ddydd Gwener 21 Ionawr, ni fydd cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored wrth i ddigwyddiadau tu allan symud i Lefel Rhybudd Sero.

Bydd hyn yn golygu y bydd torfeydd yn gallu dychwelyd i stadiymau chwaraeon yng Nghymru wedi i gemau gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig dros y dyddiau diwethaf.

Os yw'r niferoedd o achosion Covid-19 yn parhau i leihau, ar 28 Ionawr fe fydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero am ddigwyddiadau dan do.

Bydd clybiau nos yn medru ail-agor a’r sector lletygarwch ddim yn gorfod parhau â’r “rheol chwe pherson”.

Fe fydd y cyfyngiadau yn cael eu hadolygu bob tair wythnos unwaith eto unwaith y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd Sero.

Mae Plaid Cymru wedi galw am lacio'r cyfyngiadau ar chwaraeon os yw pegwn y don wedi ei gyrraedd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod "yn falch" i weld y newidiadau. 

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw i'r Llywodraeth codi cyfyngiadau ar y sector lletygarwch a digwyddiadau chwaraeon yn ogystal â lleihau'r cyfnod hunan-ynysu o saith diwrnod i bump.

"Serch y dystiolaeth wyddonol yn Ne Affrica, mae'n amlwg bod gweinidogion Llafur wedi ymateb yn rhy gryf i Omicron, sydd wedi achosi pryder i deuluoedd a busnesau yng Nghymru," meddai Mr Davies. 

"Yn anffodus, mae Llafur wedi eithrio Cymru o weddill y Deyrnas Unedig gyda'r cyfyngiadau llymach ar gyfer chwaraeon, gweithgareddau tu fas a lletygarwch."

Llwyddiant yr ymgyrch frechu 

Bu cynnydd serth yn y nifer o achosion Covid-19 dros y misoedd diwethaf wrth i'r amrywiolyn Omicron ledaenu ar draws Cymru. 

Ar un adeg, roedd y gyfradd achosion ymhob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi cyrraedd 2,335.3  - ei lefel uchaf erioed. 

Er hyn, mae'r nifer o achosion sydd yn cael eu cofnodi yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf. 

Cafodd 3,197 o achosion newydd eu cofnodi ddydd Iau a bellach nid oes gan yr un sir yng Nghymru gyfraddau'n uwch na 2,000 o achosion ymhob 100,000 o bobl. 

Dywedodd y llywodraeth y byddai'n bosib dechrau codi cyfyngiadau o ganlyniad i'r lleihad mewn achosion a llwyddiant yr ymgyrch i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu. 

Erbyn hyn, mae dros 1.75m o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu yng Nghymru. 

Bydd Mark Drakeford yn amlinellu'r manylion ymhellach mewn cynhadledd i'r wasg am 12:15 ddydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.