Awstralia yn canslo visa Novak Djokovic

Mae llywodraeth Awstralia wedi canslo visa Novak Djokovic ddyddiau'n unig cyn i bencampwriaeth tenis yr Australian Open ddechrau.
Fe gadarnhaodd weinidog mewnfudo Awstralia, Alex Hawke, y byddai'r visa'n cael ei ganslo.
Mae'n debygol y bydd y penderfyniad yn arwain at alltudio chwaraewr Rhif Un y byd gan olygu na fydd yn medru cystadlu am y teitl, yn ôl The Guardian.
Mae'r penderfyniad hefyd yn golygu y gallai Djokovic gael ei wahardd i bob pwrpas rhag teithio i Awstralia am dair blynedd oni bai am resymau eithriadol.
Dywedodd y gweinidog mewnfudo ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar sail rhesymau iechyd a'i fod o "ddiddordeb y cyhoedd".
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Mirasha (drwy Flickr)