Newyddion S4C

Rhybudd melyn am niwl yn effeithio ar rannau o Gymru fore Gwener

14/01/2022
Niwl

Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl ar draws Cymru a dros nos.

Daeth y rhybudd i rym am 17:00 nos Iau a bydd yn parhau tan 11:00 fore Gwener.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar wyth o awdurdodau lleol ar draws rhannau o'r De a'r Dwyrain.

Mae disgwyl i'r niwl effeithio ar Fro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Wrecsam.

Bydd niwl yn ffurfio yn drwchus mewn mannau dros nos, yn enwedig mewn dyffrynnoedd afonydd ac mae disgwyl i welededd fod yn llai na 100 medr.

Mae disgwyl i’r niwl ledaenu ar ôl iddi wawrio fore Gwener cyn clirio’n ddiweddarach ac fe allai'r niwl barhau mewn mannau yn ystod y dydd.

Mae’n bosib bydd y niwl yn effeithio ar amserlenni bysys a threnau ac y gall y niwl achosi oedi neu ganslo awyrennau.

Mae rhagor o fanylion ar wefan y swyddfa dywydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.