Newyddion S4C

Heddlu'n apelio yn dilyn honiad o dreisio yn Sir Benfro

13/01/2022
Heddlu.
Heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i gyhuddiad o dreisio yn Sir Benfro ar ddydd Llun, 3 Ionawr.

Fe dderbyniodd swyddogion adroddiad ychydig cyn 00:00 yn dilyn digwyddiad honedig o flaen fflatiau ar Observatory Avenue yn Hakin ger Aberdaugleddau.

Mae disgrifiad o'r troseddwr honedig wedi ei rannu gan yr heddlu. Roedd yn gwisgo trowsus du, cardigan lwyd a chrys-t du.

Y gred yw ei fod rhwng 50 a 60 mlwydd oed a bod ganddo wallt oedd yn teneuo neu'n mynd yn foel, a gwallt byrrach ar ochr ei ben.

Roedd ganddo acen leol ac mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod DPP/1491/03/01/2022/02/C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.