Arestio dyn ar amheuaeth o glwyfo dyn arall yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o glwyfo dyn arall yng Nghaerdydd.
Cafodd dyn 18 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau nad ydynt yn bygwth ei fywyd.
Mae ei gyflwr wedi ei ddisgrifio fel un difrifol ond sefydlog.
Mae'r dyn sydd dan amheuaeth o glwyfo hefyd yn 18 oed ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywed Heddlu'r De bod adroddiadau o drywaniad ar Ffordd y Gogledd yn ardal y Waunddyfal o'r brifddinas am 14:30 ddydd Mawrth.
Ar hyn o bryd, nid yw'r heddlu'n credu fod cyllell wedi cael ei defnyddio yn y digwyddiad.
Dywed y llu bod deunydd camerâu cylch cyfyng ar y pryd yn dangos bod nifer o bobl yn yr ardal ar adeg y digwyddiad honedig.
Mae swyddogion yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod *011071.
Llun: Google