Newyddion S4C

Covid-19: Codi cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored yn yr Alban

Sky News 11/01/2022
Nicola Sturgeon - Llun Prif Weinidog yr Alban

Bydd cyfyngiadau Covid-19 ar ddigwyddiadau awyr agored mawr yn yr Alban yn cael eu codi o ddydd Llun.

Ers Gŵyl San Steffan mae cyfyngiad o 500 o bobl mewn digwyddiadau awyr agored yno.

Bydd codi’r cyfyngiadau yn caniatáu i gefnogwyr pêl-droed ddychwelyd i gemau Uwch Gynghrair yr Alban yr wythnos nesaf,  a gemau’r Chwe Gwlad yn Stadiwm Murrayfield fis Chwefror. 

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ei bod yn “rhesymol ac yn iawn i fod yn obeithiol” am ddata diweddaraf Covid-19 y wlad, ond ychwanegodd ei bod yn “gweithredu yn ofalus”.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Prif Weinidog yr Alban

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.