Pensiynwr gafodd ei lofruddio gyda bwa croes wedi ei dwyllo o £200,000

Mae llys wedi clywed honiadau fod pensiynwr wedi colli dros £200,000 drwy dwyll yn ystod y blynyddoedd cyn iddo gael ei lofruddio ym Môn.
Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei lofruddio tu allan i'w gartref gan saeth o fwa croes oedd wedi ei saethu ato ym Mhenrhos Feilw, Ynys Môn ar 19 Ebrill 2019.
Cyn ei lofruddiaeth, sydd heb unrhyw gysylltiad gyda'r achos llys, roedd Mr Corrigan a'i bartner Marie Bailey, 67, wedi dod yn ffrindiau gyda Richard Wyn Lewis yn 2015.
Dros gyfnod o bedair blynedd fe roddodd Mr Corrigan a Ms Bailey arian sylweddol i Mr Lewis yn y gobaith y byddai'n cael ei ddefnyddio i ddatblygu a gwerthu tir, a gwerthu ceffylau.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun fe wnaeth yr erlyniad amlinellu'r achos yn erbyn Mr Lewis o Lanfair-yn-Neubwll, sydd yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae'n wynebu 11 cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae ei bartner, Siwan Mclean yn gwadu cyhuddiad o wyngalchu arian, ac mae'r achos yn parhau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.