Llofruddiaeth Ahmaud Arbery: Tri dyn yn cael eu dedfrydu i garchar am oes

Sky News 08/01/2022

Mae tri dyn gwyn a saethodd dyn du yn wrth iddo redeg trwy eu cymdogaeth yn yr Unol Daleithiau wedi eu dedfrydu i garchar am oes am ei lofruddio. 

Cafodd Ahmaud Arbery ei gorneli gan Travis McMichael, 35, ei dad Gregory McMichael, 66 a’u cymydog William ‘Roddie’ Bryan, 52 ar 23 Chwefror 2020 tu allan i ddinas Brunswick yn nhalaith Georgia.

Bu farw Mr Arbery ar ôl cael ei saethu gan Travis McMichael. 

Yn ôl Sky News, dywedodd y barnwr yn nhalaith Georgia fod Mr Arbery wedi ei “hela a’i saethu oherwydd bod unigolion yn y llys yma wedi cymryd y gyfraith i’w dwylo ei hun”.

Darllenwch y stori yn llawn yma.