Newyddion S4C

Oedi penderfyniad ar gynnal Eisteddfod yr Urdd ym Merthyr Tudful

Golwg 360 06/01/2022
Arwydd Croeso Urdd

Mae Cyngor Merthyr Tudful wedi oedi penderfyniad ar gynnal Eisteddfod yr Urdd yn y dref.

Y bwriad oedd trafod adroddiad ar y cynnig yng nghyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Mercher.

Nid oedd modd cyflwyno’r adroddiad yn ôl maer y dref y Cynghorydd Malcolm Colbran, oherwydd absenoldebau staff.

Bydd yr adroddiad ar gynnal yr ŵyl ym Mharc Cyfarthfa yn y dref yn 2025 nawr yn cael ei chyflwyno eto yn y dyfodol, yn ôl Golwg360.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.