Covid-19: Cofnodi 9,213 achos newydd a chwe marwolaeth
Mae 9,213 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr hyd at 09:00 fore dydd Mercher.
Cafodd chwe marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi cynyddu unwaith eto i 2,228.5.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent (2,945.8), Merthyr Tudful (2,902.6) a Rhondda Cynon Taf (2,884.4).
Bellach nid oes yr un sir sydd â chyfradd o achosion yn llai na 1,400 ymhob 100,000.
Roedd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (1,437.8), Sir Benfro (1,633.3) a Phowys (1,693.7).
Mae 698,962 achos positif a 6,605 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.
Hyd yma mae 2,493,502 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,311,284 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,682,525 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu.
Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.