Cynllun newydd yn gobeithio “cywiro'r anghyfiawnder” yn erbyn pobl hoyw yn y gorffennol

Fe fydd unrhyw berson a gafodd eu cyhuddo o droseddau rhyw o dan gyfreithiau sydd eisoes wedi'u diddymu yn nawr yn gymwys am bardwn cyfreithiol.
Mae hyn yn cynnwys pobl gafodd eu cyhuddo o droseddau rhyw am gynnal perthynas neu gyfathrach hoyw.
Mae cynllun Diystyru a Phardynau'r Llywodraeth yn galluogi pobl i wneud cais i gael euogfarnau o dan hen gyfreithiau i gael eu dileu oddi ar eu record droseddol.
Hyd yma, dim ond rhai troseddau yn ymwneud â phobl hoyw oedd yn rhan o'r cynllun, ond yn ôl The Independent, mae'r Ysgrifenydd Cartref, Priti Patel, wedi cyhoeddi y bydd cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pob cyfraith oedd yn erlyn pobl am berthnasau hoyw.
Dywedodd y gweinidog bod y newid yn rhan o ymgyrch i "gywiro'r anghyfiawnderau o'r gorffennol."
Darllenwch mwy yma.