Dr Frank Atherton

Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Dr Frank Atherton i fod yn farchog

NS4C 01/01/2022

Bydd un o brif feddygon Cymru yn dod yn farchog fel rhan o anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn derbyn yr anrhydedd am ei wasanaeth i iechyd cyhoeddus.

Mae Dr Atherton wedi bod yn ei rôl yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion meddygol ers 2016, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynghori gweinidogion yn ystod y pandemig Covid-19.

Bydd Dr Jenny Harries o Fynwy, sydd wedi bod yn brif weithredwr ar Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ers Ebrill 2021, hefyd yn cael ei gwneud yn Foneddiges.

Mae anrhydeddau i nifer o Gymry eraill hefyd ar y rhestr gyda nifer o sêr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020 yn cael eu hanrhydeddu.

Mae OBE wedi ei roi i'r hwyliwr Hannah Mills a'r chwaraewr boccia David Smith wedi eu llwyddiannau yn Tokyo.

Bu hefyd OBE i'r athletwr Aled Sion Davies a dywedodd mae'n gobeithio bod y gwobr wedi ysbrydoli pobl ifanc ac yn " dangos beth ni'n gallu hyd yn oed yn cael anabledd."

Mae'r bocsiwr Lauren Price hefyd wedi derbyn MBE.

Tu hwnt i Gymru, mae Syr Patrick Vallance a'r Athro Chris Whitty yn cael eu gwneud yn farchogion comander.

Mae'r seiclwr Jason Kenny, y darlledwr Trevor Phillips a'r Athro Jonathan Van-Tam yn dod yn farchogion.

Mae'r seiclwr Laura Kenny a'r actorion Joanna Lumley a Vanessa Redgrave yn cael eu gwneud yn Foneddigesion.