Erlynwyr yn dechrau ar y gwaith o archwilio ‘llyfr bach du’ Ghislaine Maxwell

Bydd erlynwyr yn dechrau ar y gwaith o archwilio ‘llyfr bach du’ Ghislaine Maxwell yn fanwl wedi iddi gael ei chanfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn merched ifanc yn America.
Mae’r llyfr yn cynnwys dros 300 o enwau a chysylltiadau yn y DU.
Ddydd Iau, 30 Rhagfyr cafwyd Maxwell yn euog gan reithgor yn Efrog Newydd o bump o’r chwe chyhuddiad yn ei herbyn, gan gynnwys cynllwynio i ddenu plant i deithio i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw anghyfreithlon.
Bydd Maxwell, 60 oed yn cael ei dedfrydu yn y dyfodol agos.
Yn y cyfamser, bydd erlynwyr yn yr UDA nawr yn mynd ar drywydd pawb sy'n ymwneud â'i "chynllun pyramid o gam-drin".
Mae'r Daily Mirror yn adrodd fod rhai o’r enwau a geir yn y 'llyfr bach du' a adeiladodd gyda'i chariad, y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein, yn cynnwys rhai o bobl fwyaf adnabyddus a dylanwadol y DU, ond fe laddodd Epstein ei hun mewn carchar yn Efrog Newydd yn 2019, tua mis ar ôl iddo gael ei arestio am droseddau rhyw.
Nid oes unrhyw honiad o gamweddau yn erbyn y rhai y manylir arnynt yn y cyfeiriadur, fodd bynnag, gyda'r FBI yn eu gweld fel tystion posibl "oni bai bod y dystiolaeth yn eu harwain i fannau eraill".
Mwy am y stori yma.