Seland Newydd yn croesawu 2022 wrth i ddathliadau'r byd ddechrau

Seland Newydd yw’r wlad gyntaf i groesawu’r flwyddyn newydd.
Roedd torfeydd wedi ymgynnull yn Auckland am y tro cyntaf ers mis Awst ar ôl i reolau newid yn y wlad.
Bydd dathliadau Calan dipyn yn dawelwch ar draws y byd eto eleni oherwydd cyfyngiadau Covid.
Yn Llundain, mae Maer y ddinas Sadiq Khan wedi gohirio’r arddangosfa dân gwyllt traddodiadol yn sgwâr Trafalgar.
Mae dathliadau Hogmanay yn yr Alban hefyd wedi eu canslo, yn ôl The Evening Standard.
Darllenwch y stori yn llawn yma.