Angen gwneud mwy i atal camddefnydd o luniau ar-lein

07/04/2021

Angen gwneud mwy i atal camddefnydd o luniau ar-lein

Does dim digon yn cael ei wneud i warchod lluniau personol rhag cael eu rhannu a’u camddefnyddio ar-lein, yn ôl model a dylanwadwr ar Instagram.

Roedd Jess Davies yn siarad wedi iddi weithio ar raglen ddogfen newydd am y pwnc ar gyfer y BBC.

Fel rhan o waith ymchwil y rhaglen, fe ddaeth yn amlwg fod lluniau preifat ohoni wedi cael eu gwerthu ar draws y byd a’u defnyddio i dwyllo pobl dros y we.

Does gan Ms Davies ddim rheolaeth dros ble mae’r lluniau personol hyn ohoni hi yn ymddangos ar y we ers ei dyddiau fel model ‘glamour’ – gyda nifer o’r lluniau yn cael eu camddefnyddio, rhannu a’u gwerthu.

Dywed wrth Newyddion S4C fod hyn yn ei gwneud hi deimlo’n 'frwnt' ac yn 'sâl' ar brydiau.

Mae Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnal ymgynghoriad i’r ffordd mae lluniau personol yn cael eu creu a’u rhannu heb ganiatâd.

'Ffeindio mas amdano’r underground world ‘ma'

Gyda 150,000 o ddilynwyr ar Instagram, mae Ms Davies wedi arfer gydag unigolion yn dwyn ei lluniau er mwyn honni bod yn rhywun arall – arferiad sy’n cael ei adnabod fel catfishing.

Ond mae’r rhaglen When Nudes Are Stolen ar BBC Three yn datgelu difrifoldeb y sefyllfa, gydag ymchwilydd preifat yn datgelu i Ms Davies fod lluniau ohoni wedi cael eu defnyddio ar draws y we, ar wefannau pornograffig ac ar wefannau asiantaethau ‘escort’.

“Pan nes i ddechre ffilmio’r ddogfen oni jest yn meddwl bydde fe amdano jest y byd o catfishing, ond actually pam neshi edrych fewn i lle mae lluniau ohono fi wedi mynd, esi ffeindio mas amdano’r underground world ‘ma ar-lein lle mae dynion actually yn dwyn, ac wedyn yn rhannu ac wedyn yn gwerthu mewn packs lluniau o fenywod, wastad heb top neu’n noeth ac dyna lle mae gyd o’r arian yn cael ei wneud,” meddai.

Yn ystod yr ymchwiliad, fe ddarganfyddodd ei bod hefyd yn destun i math o seibrdroseddu lle mae pobl – menywod yn bennaf – yn cael eu dynwared ar-lein, a lluniau noeth ohonyn nhw yn cael eu gwerthu.

Fe ddysgodd fod pecynnau o luniau preifat ohoni yn cael ei masnachu gan bobl ddieithr ar y we.

'Neud fi deimlo mor grac'

“O ni jest yn teimlo’n really sâl yn weld ferched yn cael eu siarad amdano fel Pokémon cards a galle chi jest pigo mas be chi ishe fel mewn catalogue – oedd e really, really yn awful.”

“Mae neb yn neud dim byd amdano fe, mae fe jest yn neud fi deimlo mor grac achos mae pawb yn dweud: “oh well, that’s the internet”.

“Ond os bydd ni’n weld menywod yn cael eu gwerthu ac yn cael eu siarad amdano fel ma yn kind of y market store, bydde pawb yn dweud ma hwna yn absolutely awful, mae’n rhaid i ni stopio fe.

“Ond achos ma fe’n digwydd ar y we, ma pawb jest yn turn a blind eye to it a ma hwnne ddim yn iawn,” meddai.

Mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd sy’n edrych ar y ffordd mae lluniau preifat o bobl yn cael eu camddefnyddio ar y we.

Yn yr adroddiad agoriadol, mae’r Comisiwn yn dweud fod 'lle i ddiwygio' y gyfraith o amgylch cymryd a rhannu delweddau personol heb ganiatâd. Fe fydd y Comisiwn yn ystyried y deddfau troseddol o amgylch hyn ac yn asesu os ydyn nhw’n delio’n ddigonol gyda’r math yma o ymddygiad.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn ystod pandemig Covid-19, gyda’r Comisiwn yn rhybuddio nad ydy’r sefyllfa wedi helpu’r mater o ran y camddefnydd o ddelweddau rhywiol o gwbl.

Fe wnaeth elusen The Revenge Porn Helpline weld cynnydd o 87% mewn achosion yn 2020 o’i gymharu â 2019 – gyda 70% o alwadau yn rai gan fenywod.

Mae ymgynghoriad y Comisiwn ar agor tan 27 Mai 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.