1,166 o gefnogwyr Wrecsam yn teithio i Altrincham er cyfyngiadau Covid Cymru
Teithiodd 1,166 o gefnogwyr Wrecsam i Altrincham ddydd Mawrth ar gyfer eu gêm yng nghynghrair y Conference Premier er bod rheolau newydd ar wylio gemau chwaraeon yng Nghymru.
Er hyn, efallai fod y gefnogaeth i'r tîm cartref wedi bod o gymorth i Wrecsam wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn y tîm cartref.
Peniad Aaron Hayden llwyddodd i roi'r sgôr cyntaf ar y bwrdd gyda Bryce Hosannah yn ergydio i sicrhau'r ail.
Pe bai Wrecsam yn chwarae gêm gartref yn y Cae Ras, dim ond 50 o gefnogwyr fyddai'n cael mynychu dan y rheolau newydd sydd yn bodoli yng Nghymru.
Daeth y rheolau i rym yma ar Ŵyl San Steffan fel rhan o gyfres o fesurau gan Lywodraeth Cymru i arafu lledaeniad amrywiolyn Omicron.
Gydag ond 50 o filltiroedd yn gwahanu'r ddau glwb, roedd disgwyl y byddai "cefnogaeth aruthrol" dilynwyr CPD Wrecsam yn croesi Clawdd Offa i gefnogi eu tîm.
Dyma oedd y gêm bêl-droed gyntaf i gael ei chwarae gan un o dimoedd Cymru ym mhrif gynghreiriau Lloegr ers i'r cyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno.
Bu'n rhaid i Wrecsam ohirio gêm yn erbyn Solihull Moors ar Ddydd San Steffan tan Ddydd Gwener y Groglith (15 Ebrill) y flwyddyn nesaf.
Yng Nghynghrair Dau, ni fydd Casnewydd yn wynebu Leyton Orient ddydd Mercher wedi nifer o achosion positif o Covid-19 ac anafiadau o fewn y garfan.
Nid oedd Forest Green yn Rodney Parade ar Ddydd San Steffan chwaith yn sgil achosion Covid-19 yn eu carfan.
Yn y Bencampwriaeth, cafodd gêm Caerdydd yn erbyn Coventry City ei gohirio hefyd o ganlyniad i sawl achos o Covid-19 ymhlith chwaraewyr a staff.
Ni fydd Abertawe yn croesawu Luton Town i Stadiwm Swansea.com ddydd Mercher yn dilyn achosion pellach o Covid-19 yn y garfan.
Daw hyn wedi i'w gêm oddi cartref yn erbyn Millwall ar Ddydd San Steffan hefyd gael ei gohirio.
Mae holl gemau Uwchgynghrair Cymru a chynghreiriau Ardal ac Adran wedi eu hatal am y tro yn sgil y cyfyngiadau ar niferoedd cefnogwyr.
Mae'r rheolau newydd sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru hefyd yn golygu nad oes modd cwrdd mewn grŵp o fwy na 30 o bobl dan do neu 50 o bobl y tu allan.
Mae cyfyngiadau newydd ar y sector lletygarwch hefyd, gan gynnwys dychweliad y rheol "chwe pherson" a gorfodi clybiau nos i gau am y tro.