Rwsia a’r UDA i gynnal trafodaethau yn sgil tensiynau dros yr Wcráin

The Guardian 28/12/2021

Bydd swyddogion yr Unol Daleithiau a Rwsia yn cynnal trafodaethau dros ddiogelwch ym mis Ionawr wrth i’r ddwy wlad wynebu tensiynau dros yr Wcráin.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran gweinyddiaeth yr Arlywydd Biden fod trafodaethau rhwng Rwsia a Nato yn debygol hefyd, tra bod cyfarfod ehangach rhwng Moscow, Washington a sawl gwlad Ewropeaidd wedi ei drefnu yn ddiweddarach.

Fe adroddir gan asiantaeth newyddion yr RIA, sy’n cael ei redeg gan lywodraeth Rwsia, fod y swyddfa dramor ym Moscow wedi trefnu i drafod eu gofynion diogelwch gyda Washington ar 10 Ionawr.

Mae llygaid y byd wedi’u hoelio ar y sefyllfa fregus yn nwyrain Ewrop wrth i Rwsia osod byddin o bron i 100,000 o filwyr ar hyd y ffin rhyngddynt a'r Wcráin.

Maent wedi cyflwyno rhestr o ofynion diogelwch delfrydol y maent eisiau eu trafod, gan gynnwys addewid gan Nato i ildio holl weithgaredd milwrol yn nwyrain Ewrop a'r Wcráin.

Dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Diogelwch Cenedlaethol y Tŷ Gwyn ddydd Llun: “Pan fyddwn yn eistedd lawr i drafod, fe gaiff Rwsia amlinellu eu pryderon, ac fe wnawn ni amlinellu ein pryderon gyda gweithgareddau Rwsia hefyd.

“Mi fydd yna elfennau lle gellir gwneud cynnydd, ac elfennau lle byddwn yn anghytuno. Peth felly yw diplomyddiaeth.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.