Dyn 18 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych

Mae dyn 18 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Ddinbych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A494 ger Corwen ychydig cyn 15:00 ddydd Iau.
Yn ôl North Wales Live, cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd dyn 21 oed ei arestio ar ôl methu prawf cyffuriau yn dilyn y gwrthdrawiad ond mae'r dyn bellach wedi'i ryddhau wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar bobl am wybodaeth.
Darllenwch fwy yma.