Geraint Lewis i adael tîm hyfforddi rygbi Merched Cymru
Fe fydd hyfforddwr cynorthwyol tîm rygbi Merched Cymru yn gadael ei rôl yn y gwanwyn.
Bydd Geraint Lewis yn gadael Undeb Rygbi Cymru i ddechrau fel darlithydd chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd.
Roedd y cyn-chwaraewr rheng ôl i Gymru yn rhan o dîm hyfforddi carfan dan 20 Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2016.
Daw ei ymadawiad yn dilyn cyhoeddiad diweddar y bydd Merched Cymru yn derbyn cytundebau llawn-amser o'r flwyddyn nesaf.
Mae Lewis wedi bod yn hyfforddwr y blaenwyr ar gyfer Merched Cymru am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe arweiniodd dîm hyfforddi Merched Cymru ar y cyd yn ystod gemau rhyngwladol yr Hydref.
"Mae hi wedi bod yn anrhydedd i weithio o fewn y llwybrau dynion a merched yn ystod y saith mlynedd diwethaf a rhannu llawer o brofiadau gwahanol a gwerthfawr gyda chwaraewyr talentog sy'n gweithio'n galed dros yr amser," meddai.
"Wedi'r cyfnod ansefydlog amlwg yn ddiweddar, dwi'n gwybod ac yn gobeithio y bydd pob tîm yn symud ymhellach ymlaen ac y bydd chwaraewyr a staff yn parhau i elwa a ffynnu o'r sialensiau a'r profiadau y mae rygbi rhyngwladol yn ei gynnig ar bob lefel."
Diolchodd Ioan Cunningham, prif hyfforddwr Merched Cymru, Lewis am ei gyfraniad a'i ddylanwad ar Ferched Cymru.
Mae rôl hyfforddwr cynorthwyol llawn-amser ar gyfer Merched Cymru eisoes wedi ei hysbysebu gydag Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio penodi cyn gynted â phosib yn 2022.