Achosion Omicron yn llai tebygol o fod angen triniaeth ysbyty i gymharu â Delta

Mae adroddiad newydd yn awgrymu fod pobl sydd yn dal yr amrywiolyn Omicron o Covid-19 yn llai tebygol o fod angen triniaeth ysbyty i gymharu â rhai sydd wedi'u heintio gan awrywiolion eraill.
Yn ôl yr astudiaeth gan Goleg Imperial Llundain, mae pobl sydd yn dal amrywiolyn Omicron yn 15-20% llai tebygol o fod angen triniaeth yn yr ysbyty i gymharu â phobl sydd â'r amrywiolyn Delta o’r coronafeirws.
Er hyn, mae Sky News yn adrodd fod gwyddonwyr yn parhau i bwysleisio'r pwysigrwydd o gael brechlyn atgyfnerthu gan fod data yn awgrymu bod dau ddos o'r brechlyn yn llai effeithiol yn erbyn Omircon.
Dywedodd Yr Athro Neil Ferguson o Goleg Imperial: "Yn ôl ein dadansoddiad o'r data, mae yna dystiolaeth bod lleihad cymedrol o'r risg o fod angen triniaeth ysbyty mewn achosion sy'n gysylltiedig â’r amrywiolyn Omicron i gymharu â'r amrywiolyn Delta."
"Ond mae hyn yn cael ei gydbwyso gan y ffaith bod brechlynnau yn llai effeithiol yn erbyn salwch achoswyd gan yr amrywiolyn Omicron."
Darllenwch mwy yma.