Dymchwel cerflun Sgwâr Tiananmen yn Hong Kong
23/12/2021
Mae cerflun enwog ym Mhrifysgol Hong Kong oedd yn cofio cyflafan Sgwâr Tiananmen wedi cael ei dynnu’i lawr ddydd Mercher.
Roedd y cerflun yn arddangos cyrff wedi eu pentyrru i goffáu protestwyr o blaid democratiaeth a laddwyd gan awdurdodau China yn 1989.
Roedd yn un o'r ychydig gofebion cyhoeddus oedd ar ôl yn Hong Kong i goffáu'r digwyddiad, sy'n bwnc hynod sensitif yn China.
Daw’r penderfyniad i ddymchwel y cerflun wrth i Beijing fynd i’r afael â anghytuno gwleidyddol yn Hong Kong.
Darllenwch y stori’n llawn yma.