Pob ysgol i dderbyn llyfr hanes Cymru am ddim
Bydd pob ysgol yng Nghymru yn derbyn copi o lyfr hanes am ddim i geisio gwella dealltwriaeth disgyblion o hanes Cymru.
Bydd ysgolion yn derbyn copi Cymraeg a Saesneg o 'Hanes yn y Tir' gan yr hanesydd a chyn-athrawes Dr Elin Jones.
Mae'r llyfr yn defnyddio darluniau i gyflwyno hanes Cymru dros gyfnod o 5,000 o flynyddoedd, o'r aneddiadau cynharaf hyd at heddiw, gan geisio esbonio i blant sut mae tirwedd Cymru wedi'i llunio gan ei hanes.
Fe fydd ysgolion yn derbyn y llyfr yn 2022 fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi dysgu hanes Cymru, sydd yn y cwricwlwm newydd, sydd yn dod i rym yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23.
Dywedodd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rydyn ni am sicrhau bod pob disgybl yn deall hanes ein gwlad erbyn iddo adael yr ysgol – nid y digwyddiadau mawr yn unig, ond hanes bywydau a phrofiadau pobl a chymunedau o bob cwr o Gymru.
“Mae Hanes yn y Tir yn llwyddo i ddod â hanes cyfoethog Cymru yn fyw, a bydd yn adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwricwlwm newydd.”
'Helpu pobl ifanc i ddeall'
Yn ôl Dr Elin Jones, "mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r pwysigrwydd priodol i gynefin y disgyblion, eu hardal leol, ac i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth.
"Nod y llyfr yw helpu pobl ifanc i ddeall sut mae hanes wedi ffurfio tirwedd Cymru a sut mae cliwiau i hanes eu cynefin i'w gweld yn y pethau sydd o'u cwmpas, fel adeiladau ac enwau lleoedd.
“Gobeithiaf y bydd plant ac athrawon fel ei gilydd yn mwynhau'r llyfr ac y bydd yn gymorth i ddod a hanes cymhleth Cymru'n fyw, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi."