'Gall gamblo gael effeithiau trychinebus, difetha bywydau, a dod â bywydau i ben'

'Gall gamblo gael effeithiau trychinebus, difetha bywydau, a dod â bywydau i ben'
Fis Mawrth eleni fe gyfaddefodd Dr Aled Meirion Jones, ei fod wedi twyllo'r Gwasanaeth Iechyd o bron i £68,000.
Ar ôl bod yn gaeth i gamblo, mae’r meddyg o Gaerdydd wedi siarad â Newyddion S4C am y profiad wnaeth ddifetha ei fywyd.
Yn ôl Aled fe gollodd dros £800,000, ond y perthnasau gollodd yn sgil y gamblo yw ei ofid mwyaf.
"Rwy'n ei chael hi'n anodd rhoi union ddyddiad pryd trodd y gamblo yn batholegol," meddai.
"Rwy sicr yn gallu cofio’r bet gyntaf tra yn y brifysgol, roedd ‘na bromosiwn mewn papur newydd lle o’n i a’n ffrindiau yn rhoi £10 i lawr a boed chi’n ennill neu golli roeddech chi’n cael £10 yn ôl.
"Dyna pryd y plannwyd yr hadyn ‘na am fetio yn fy mhen."
Yn ddiweddarach yn ei fywyd, wrth wynebu anawsterau, dioddef o broblemau gyda'i hwyliau ac anfodlonrwydd â’i waith, roedd Aled yn cael rhyddhad trwy gamblo.
Mae'n cofio'r noson pan drodd swm cychwynnol o £500 yn £10,000 drwy fetio ar gyfres o ganlyniadau chwaraeon. Y noson honno roedd Roger Federer yn wynebu Juan Martin ym Mhencampwriaeth Agored Tenis yr Unol Daleithiau.
Yn rhif un yn y byd ar y pryd, Federer oedd y ffefryn i ennill y gystadleuaeth, ac fe roddodd Aled y £10,000 ar Federer i ennill ei chweched teitl yn olynol. Ond colli wnaeth Federer, ac fe gollodd Aled ei arian.
"Wrth wylio fy arian yn diflannu, dylwn i fod wedi meddwl £500 oedd o i ddechrau felly beth yw’r ots, a chydnabod bod gamblo yn gêm beryg a cherdded i ffwrdd.
"Ond chi ffili meddwl yn rhesymegol rywsut pan chi'n gaeth i rywbeth, ac yn sicr doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n gaeth ar y pryd, dydy eich meddwl chi ddim yn meddwl felly.
"O'n i'n berson styfnig hefyd ac yn benderfynol o ennill yr arian yma yn ôl, er o’n i’n araf bach yn ennill peth arian nôl yn anochel o’n i’n colli e.”
Gan weithio fel meddyg, roedd Aled o’r farn ar y pryd ei fod yn gallu fforddio'r arferiad, ond yn y pen draw roedd yn ddibynnol ar fenthyciadau a chardiau credyd.
Am gyfnod o amser, llwyddodd i dalu'r dyledion drwy weithio sifftiau ychwanegol, ond fe gymerodd ei gaethiwed i gamblo dros bob agwedd o'i fywyd.
'Dechrau osgoi cymdeithasu'
"Fyswn i’n dechrau osgoi pethau. Osgoi mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol oherwydd roeddwn i eisiau gamblo, ac weithiau gan fod dim arian gyda fi. Fe gymerodd drosodd fy mywyd ac mae'n eich newid chi.
“Dechreuais fenthyg arian gan ffrindiau, yn amlwg doeddwn i ddim yn dweud wrthynt mai gamblo oedd y rheswm, ond doeddwn i ddim yn gweld hynny'n niweidiol.
"Ro’n i'n teimlo bod angen yr arian arnaf. Ro’n i'n mynd i'w ennill yn ôl a'u talu nhw’n ôl. Ro’n i'n byw mewn cyfrinachedd nes i mi droi at droseddu. Ro’n i’n cyflawni twyll. Ac yn y pen draw, cefais fy nal. Ond dyna wnaeth i mi fynd i'r afael â'm problemau mewn gwirionedd."
Plediodd Aled yn euog ym mis Ionawr i ddau achos o dwyll a cham-drin pŵer.
Roedd wedi hawlio am sifftiau locwm nad oedd wedi eu gweithio ac wedi dwyn sieciau.
Ym mis Mawrth, cafodd ddedfryd o 24 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd, gorchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl ac fe'i gwaharddwyd o'r gofrestr feddygol am o leiaf 12 mis.
"Pan dwi'n trio esbonio hyn i bobl sydd efallai ddim wedi profi caethiwed, dwi ddim yn gwybod os ydy nhw’n deall achos dwi'n cael trafferth deall fy hun.
"Mae gen i gywilydd mawr a bydda i wastad â chywilydd, ond dwi methu newid y gorffennol a'r cyfan fedra i ei wneud yw gwella a cheisio gwneud pethau da. Nid er mwyn newid yr hyn sydd wedi digwydd ond i wneud y gorau o'r sefyllfa."
Mae Aled newydd ddychwelyd i Gaerdydd ar ôl cwblhau her seiclo i Cancun, Mecsico. Mae'n angerddol am roi yn ôl i elusen Ystafell Fyw sy’n helpu pobl gyda phroblemau gyda chaethiwed. Heb gefnogaeth yr elusen, mae Aled yn gwybod na fyddai byth wedi gwella.
'Ddim yn digwydd dros nos'
"Roedd yna adeg pan doedd gen i ddim gobaith o gwbl ac yn methu gweld unrhyw ffordd allan. Ond mae ffordd allan, mae rhaglenni triniaeth a chwnsela llwyddiannus iawn ar gael sy'n gallu newid bywydau pobl.
"Dyw e ddim yn hawdd, dyw e ddim yn digwydd dros nos, ond mae ‘na obaith a dwi wir eisiau pwysleisio hynny.”
Mae Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud eu bod wedi blaenoriaethu i fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan gaethiwed gamblo a'u bod yn cymryd camau i leihau’r effaith ar iechyd y cyhoedd drwy ddarparu cwnsela ar-lein am ddim i bobl sydd â phroblemau gamblo.
Mae Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru yn amcangyfrif bod 30,000 o bobl yn profi problem gamblo.
Ar ôl colli dros £800,000 mae Aled nawr yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am beryglon gamblo a’i effeithiau.
"Yn drasig, amcangyfrifir bod 500 o bobl sy'n gaeth i gamblo yn cyflawni hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU ac mae miloedd o bobl eraill sy'n gaeth i gyffuriau yn gwneud yr un peth. Gyda’r gefnogaeth gywir mae modd osgoi hyn.”