Ystadegau dyddiol Covid-19: Wyth o farwolaethau a dros 6,700 o achosion newydd
Mae 6,796 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd wyth yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod yn 548.
Cafodd 163 o achosion newydd o'r amrywiolyn Omicron eu cofnodi hefyd, ac mae'r cyfanswm bellach wedi cyrraedd 435.
Bellach mae 559,959 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,516 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynys Môn (778 ymhob 100,00 o'r boblogaeth), Sir y Fflint (629 ymhob 100,000) a Sir Ddinbych (614 ymhob 100,000).
Hyd yma mae 2,482,756 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,289,735 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,311,804 o bobl wedi derbyn 'hwblyn', neu ddos ychwanegol ar ôl eu dosau cyntaf.
Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19:
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) December 20, 2021
💻 https://t.co/2muolAqkqr
📱 https://t.co/A65oxySxhi pic.twitter.com/7imqUvubTh