Amrywiolyn Omicron yn lledaenu ‘fel mellten’ trwy Ffrainc
Mae’r amrywiolyn Omicron yn lledaenu ‘fel mellten’ yn Ffrainc yn ôl prif weinidog y wlad.
Mae’r awdurdodau yno wedi annog pobl i gael eu brechu yn erbyn Covid-19 cyn dathliadau’r ŵyl wrth i'r haint ledaenu a’r llywodraeth yn ceisio osgoi cyfnod clo arall.
Dywedodd y prif weinidog Jean Castex fod lledaeniad yr amrywiolyn Omicron ar draws Ewrop fel 'mellten’.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad yn gynharach yn yr wythnos i wahardd teithio i Ffrainc o’r DU.
Mae hyn wedi golygu nifer yn gorfod canslo teithiau i Ffrainc dros gyfnod y Nadolig.
Bu’n rhaid i un teulu o Gaerdydd ganslo trip sgïo i Ffrainc ar y funud olaf.
Er eu siom, dywedodd Lisa Mead ei bod hi’n cytuno gyda’r penderfyniad.
“Mae’n benderfyniad call iddyn nhw wneud ac er yn funud olaf, roedd amser gyda ni i ganslo pethe. Roedd yn gall iddyn nhw wneud cyn i bobl ddechre teithio dros y penwythnos. Getho ni gadarnhad gan y cwmni gwyliau bore dydd Iau ein bod ni’n cael pob ceiniog o gost ein gwylie nôl. Yr unig beth da ni wedi gorfod talu amdano a heb gael arian nôl yw’r gost o brofion preifat er mwyn dod nôl miwn i’r wlad hon ar ddiwedd y gwylie".
Darllenwch y stori yn llawn yma.