Newyddion S4C

Dedfrydu bocsiwr o Fangor i 10 mlynedd o garchar am ddynladdiad

North Wales Live 17/12/2021
Brandon Luke Sillence. Llun: Heddlu'r Gogledd
Brandon Luke Sillence, 25

Mae bocsiwr o Fangor wedi ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am ddynladdiad dyn wedi iddo ei daro gydag un ergyd.

Roedd Brandon Luke Sillence, 25 oed, wedi pledio’n euog i ddynladdiad Dean Harry Skillin, 20 oed, ar ôl ei daro tu allan i westy’r Waverley ym Mangor ym mis Medi 2020.

Cafodd Sillence ei garcharu am flwyddyn hefyd am ymosod ar gefnder Mr Skillin, Taylor Lock, gan achosi niwed corfforol iddo yn ystod yr un digwyddiad.

Bydd y ddwy ddedfryd yn rhedeg yn gydamserol.

Fe gymerodd y rheithgor ychydig dros bum awr i drafod eu dyfarniad yn Llys y Goron Caernarfon, ac fe gafwyd Sillence yn ddieuog o lofruddiaeth.

Wedi'r achos mae North Wales Live yn adrodd fod mam Mr Skillin wedi son am ei "anobaith llwyr a dicter ofnadwy". Dywedodd tad Mr Skillin ei fod yn teimlo "fel tase fy nghalon wedi cael ei rhwygo allan."

Mwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.