Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Sir Benfro
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth menyw 18 oed ym Mhenfro fore Gwener, 17 Rhagfyr,
Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae'r llu yn credu mai Lily Sullivan yw hi.
Maen nhw'n awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd wedi gweld Lily, oedd yn gwisgo fel y gwelwyd yn y llun gan yr heddlu, yn ardal Main Street yn nhre Penfro rhwng 19:30 nos Iau, 16 Rhagfyr ac ardal Llyn y Felin am oddeutu 02:00 ddydd Gwener.
Cafodd corff y fenyw ei ddarganfod yn ardal Llyn y Felin ym Mhenfro ychydig wedi 04:00 fore Gwener.
Mae dyn 31 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Fe all unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20211217-041.