Newyddion S4C

Crwner cwest ffrwydradau 7/7 i arwain ymchwiliad Covid-19 y DU

15/12/2021
Wal Goffa Covid y DU

Fe fydd crwner cwest ffrwydradau 7/7 yn arwain ymchwiliad annibynnol cyhoeddus i ymateb llywodraethau'r Deyrnas Unedig i'r pandemig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ddydd Mercher mai'r Farwnes Heather Hallett fydd yn cadeirio'r ymchwiliad.

Ond mae cadarnhad y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses o osod telerau'r ymchwiliad, ac mae disgwyl ystyriaeth hefyd o benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru, gan ddweud y dylai unrhyw ymchwiliad edrych ar benderfyniadau ar draws y DU.

Yn y Senedd ddydd Mercher, fe fydd Russell George Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn arwain dadl yn galw am ymchwiliad annibynnol cyhoeddus a fyddai'n canolbwyntio ar bandemig Covid-19 yng Nghymru yn benodol.

'Cyfoeth o brofiad'

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson: "Rwyf am ddiolch i'r Farwnes Hallett am gytuno i gymryd swydd Cadeirydd yr Ymchwiliad Covid-19.

"Daw â chyfoeth o brofiad i'r rôl ac rwyf yn gwybod ei bod yn rhannu fy mhenderfyniad fod yr ymchwiliad yn archwilio ymateb y llywodraeth i'r pandemig mewn ffordd fforensig a thrylwyr".

Image
Y Farwnes Heather Hallett
Y Farwnes Hallett fydd yn cadeirio'r Ymchwiliad i bandemig Covid-19 yn y DU.  Llun: Llywodraeth y DU

Wrth ymateb i'w phenodiad, dywedodd y Farwnes Heather Hallett fod arwain yr Ymchwiliad yn "anrhydedd".

"Mae'n anrhydedd i gael fy mhenodi'n gadeirydd ar Ymchwiliad Covid-19.  Mae'r pandemig wedi effeithio ni gyd, rhai dipyn yn waeth nag eraill.  Rwyf yn ymwybodol iawn o'r dioddefaint mae wedi achosi i nifer," meddai.

"Rwyf am sicrhau'r cyhoedd Prydeinig, unwaith i'r telerau gael eu gorffen, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod yr Ymchwiliad yn ateb gymaint o gwestiynau â phosib am ymateb y DU i'r pandemig er mwyn ein bod i gyd yn gallu dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol."

'Dealltwriaeth o ddatganoli'

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu penodiad y Farwnes Hallett a'r rôl y mae disgwyl i weinidogion chwarae wrth osod telerau'r Ymchwiliad.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:"Rwyf wedi dadlau ers tro y dylai’r ymchwiliad fod yn un dan arweiniad Barnwr ac mae gan y Farwnes Hallett brofiad helaeth o ddelio ag ymchwiliadau proffil uchel, sensitif a chymhleth, gan gynnwys o fewn cyd-destun datganoledig.

"Mae'r ddealltwriaeth hon o ddatganoli yn bwysig os yw'r ymchwiliad am graffu'n llawn ar benderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru mewn ymateb i'r pandemig.

"Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Gweinidogion Cymru yn ymwneud â gosod a chytuno ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad."

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu'r rheoliadau coronafeirws ddydd Gwener wrth i'r nifer o achosion o amrywiolyn Omicron gynyddu yn y wlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.