Sylwadau gweithiwr Asda am y Gymraeg yn 'annerbyniol'
![Golwg 360](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/golwg360_5.png)
Mae rheolwr siop Asda yn Wrecsam wedi cydnabod fod sylwadau un o’u gweithwyr am y Gymraeg yn “annerbyniol”, yn ôl adroddiad Golwg360.
Daw hyn wedi i weithiwr wneud sylw wrth gwsmer oedd wedi dewis y Gymraeg ar beiriant hunanwasanaeth yn y siop, gan ddweud nad oedd neb yn deall yr iaith.