Yr ymgyrchydd iaith a'r meddyg Carl Clowes wedi marw

05/12/2021
carl clowes

Mae’r ymgyrchydd iaith a'r meddyg Dr Carl Clowes wedi marw.

Caiff ei adnabod fel sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ac un o'r ymgyrchwyr pennaf dros ddatblygu'r ganolfan iaith ar hyd y blynyddoedd.

Wedi ei eni a'i fagu ym Manceinion, roedd ganddo dynfa at Gymru a'r iaith Gymraeg, ac wedi iddo raddio fel meddyg yn 1967 symudodd i Lanaelhaearn yn Llŷn i weithio. 

Yn ystod y cyfnod yma, dywed yn ei hunangofiant ei fod wedi gweld y gymuned a'i phoblogaeth yn dirywio ac iechyd y fro yn dioddef, ac felly mi benderfynodd arbenigo mewn meddygaeth gymdeithasol.

Yn sgil y bygythiad i ysgol pentref Llanaelhaearn a'r angen am gyfleoedd gwaith yn yr ardal, dechreuodd sawl fenter, gan gynnwys canolfan iaith Nant Gwrtheyrn yn 1982. 

Bellach mae miloedd o bobl wedi ymdrochi yn yr iaith ac awyrgylch unigryw'r hen bentref ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. 

Bu Dr Clowes hefyd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Maldwyn yn 1979, 1983 ac 1987.

Fel ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, ac fel Cadeirydd y Fforwm Iaith Genedlaethol fe lywiodd strategaeth iaith gynhwysfawr gyntaf erioed ar gyfer y Gymraeg.

Roedd hefyd yn gadeirydd ar elusen Dolen Cymru, a bu’n gyfrifol am sefydlu perthynas rhwng Cymru a Lesotho. Ef oedd is-gennad Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru am gyfnod. 

Image
carl clowes
Fe dderbyniodd Dr Clowes OBE yn 2012 am ei waith cymunedol yng ngogledd Cymru. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran Antur Aelhaearn:  “Derbyniwyd y newyddion tu hwnt o drist ddoe fod y Meddyg Carl Clowes wedi marw yn dilyn cyfnod byr o salwch.

“Estynnwn ein cyd ymdeimlad dwysaf i’r teulu cyfan. Bydd gweledigaeth Carl yn byw am byth yn Antur Aelhaearn a’r sefydliadau cyffelyb a sefydlwyd ar draws Cymru ers hynny.”

'Cymru yn ein dyled i Carl Clowes' 

Dywedodd cyn-lywydd Plaid Cymru ac un o gyfoedion Dr Clowes, yr Arglwydd Dafydd Wigley, fod "Cymru yn ein dyled i Carl". 

"O safbwynt sefydlu Nant Gwrtheyrn, roedd hi'n gwbl rhyfeddol sut oedd ei benderfyniad o yn gyrru'r peth ymlaen. 

"Roedd 'na lawer ohona ni'n credu fod 'na ddim gobaith cael hen bentra roedd pawb wedi gadael y lle i ddymchwel, a dim ffordd iawn o arwain i'r lle."

Ond meddai'r Arglwydd Wigley, roedd ganddo'r "weledigaeth" a'r "sbardun heintus yma i gael pobl i'w ddilyn o".

Yn 1974, fe aeth yr Arglwydd Wigley hefo Dr Clowes i gyfarfod perchnogion Nant Gwrtheyrn.

Fe lwyddodd Dr Clowes i brynu'r safle am £25,000 yn dilyn y trafodaethau hynny, oedd yn bris "llawer mwy rhesymol" na phris y safle petai wedi mynd ar y farchnad agored.

"Dyna oedd personoliaeth Carl yn ei lwyddo i wneud," meddai.

"Oedd o'n dal dychymyg pobol, ag oedd hi'n amhosib gwrthod Carl pan oedd o'n gofyn i chi ei gefnogi fo a'i helpu fo hefo menter o'r fath."

Mae teyrngedau wedi eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y cyhoeddiad. 

Dywedodd yr Aelod Senedd Cymru dros Blaid Cymru, Mabon ap Gwynfor: "Am golled aruthrol, roedd yn dipyn o arwr i mi, dyn egwyddorol hefo gweledigaeth glir a daliadau cadarn." 

Fel awdur, bu’n gyfrifol am gyhoeddi dau lyfr, sef cyfrol am Nant Gwrtheyrn (2004) a'i hunan-gofiant, Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia – A Fi (2016).

Mae’n gadael ei wraig Dorothi, a phedwar o blant, Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.