Diweddglo siomedig i Gyfres yr Hydref i ferched Cymru ar ôl colli i Ganada
Mae merched Cymru wedi colli eu gêm olaf yng Nghyfres yr Hydref ar ôl cael eu trechu 7-24 gan dîm rygbi Canada yng Nghaerdydd nos Sul.
Roedd Cymru yn gobeithio am ddiweddglo positif i'r Hydref yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Japan a De Affrica wrth iddynt wynebu un o dimau gorau'r byd.
Roedd hi’n amlwg o’r dechrau fod Canada am gynnig sialens fwy gwydn na’r gemau blaenorol gyda’u rhedeg cryf trwy’r canol.
Er hyn, Cymru sgoriodd yn gyntaf gan fanteisio ar ddisgyblaeth wael gan yr ymwelwyr.
Fe welodd Canada hi’n anodd ymdopi gyda gornest cryf y merched mewn coch ac ar ôl sawl trosedd yn olynol derbyniodd Tyson Beukeboom cerdyn melyn.
Gydag un chwaraewr yn fwy, aeth Cymru ati i roi Canada dan bwysau dwys trwy ei blaenwr.
Yn dilyn gormes gref arall, croesodd bachwr Carys Phillips am ei phedwerydd cais mewn dwy gêm i roi Cymru saith pwynt ar y blaen.
Serch eu chwaraewr ychwanegol, roedd rhaid i amddiffyn Cymru aros yn gadarn o’r ail-ddechrau wrth i Ganada geisio ymateb i ildio cais cynnar.
Ar ôl gwrthsefyll bygythiad yr ymwelwyr, aeth mewnwr Keira Bevan yn agos i ychwanegu ail gais pan welodd fwlch yn y llinell amddiffyn - ond cafodd ei hatal gan dacl gwych gan yr amddiffynnwr olaf.
Parhaodd Cymru i amddiffyn yn wych trwy gydol yr hanner cyntaf gan rwystro’r ymwelwyr rhag sgorio er iddynt reoli’r meddiant am gyfnodau hir.
Gyda llai na 10 munud yn weddill, trodd y gêm ar ei ben wrth i Ganada cael ei chwtogi i 14 menyw yn barhaol pan dderbyniodd Olivia DeMarchant cerdyn Coch.
Yn debyg i gêm y dynion yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, tacl uchel a orfododd y dyfarnwr i anfon DeMarchant oddi ar y cae.
Methodd Cymru i fanteisio ar ei chwaraewr ychwanegol ac fe aeth y merched mewn coch i mewn i’r egwyl ond saith pwynt ar y blaen.
Ail hanner caled
Y saith pwynt hynny oedd y pwyntiau olaf sgoriwyd gan Gymru am weddill y gêm wrth i Ganada ddominyddu'r ail hanner er iddynt chwarae gydag un chwaraewr yn llai.
Gwelodd Cymru hi’n anodd cyffwrdd â'r bêl ac ar ôl mwy na 10 munud o ymosod di-baid, llwyddodd Canada i sgorio eu cais cyntaf drwy Courtney Holtkamp.
Roedd disgyblaeth Cymru yn wan trwy gydol yr hanner wrth iddynt fethu ymdopi gyda’r pwysau gan Ganada ac ar ôl 56 munud derbyniodd bachwr Phillips cerdyn melyn ar ôl sawl trosedd yn olynol.
Ar ôl awr o chwarae roedd Canada ar y blaen wrth i Gymru fethu i rwystro’r ymosodiadau bygythiol a chroesodd DaLeaka Menini i roi’r ymwelwyr pum phwynt ar y blaen.
Cafodd mwy o geisiau eu hychwanegu yn y 10 munud nesaf trwy Sabrina Poulin a Ngalula Fuamba i roi Canada ymhellach ar y blaen.
Ceisiodd Cymru i frwydro yn erbyn rheolaeth Canada ond llwyddodd eu hamddiffyn corfforol i'w rhwystro rhag sgorio rhagor o bwyntiau a gorffennodd y sgôr 7-24 i Ganada.
Mae'n ddiweddglo siomedig i dîm Ioan Cunningham ar ôl ymgyrch addawol yn ystod yr Hydref.
Ond gyda chytundebau proffesiynol nawr ar gael i fenywod Cymru, mae disgwyl i’r garfan barhau i wella ar drothwy'r Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans